bcyfeiriad at Salm 2:9

Revelation of John 19

Haleliwia!

1Wedyn clywais rywbeth oedd yn swnio'n debyg i dyrfa enfawr o bobl yn y nefoedd yn gweiddi:

“Haleliwia!
Duw sy'n achub;
a fe biau'r anrhydedd a'r nerth!
2Mae ei ddyfarniad e bob amser
yn deg ac yn gyfiawn.
Mae wedi condemnio'r butain fawr
a lygrodd y ddaear gyda'i hanfoesoldeb rhywiol.
Mae wedi dial arni hi
am ladd y bobl oedd yn ei wasanaethu.”

3A dyma nhw'n gweiddi eto:

“Haleliwia!
Mae'r mwg sy'n codi ohoni
yn para byth bythoedd.”

4Dyma'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol a'r pedwar creadur byw yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn addoli Duw, oedd yn eistedd ar yr orsedd, a chanu:

“Amen! Haleliwia!”

5Wedyn dyma lais yn dod o'r orsedd yn dweud:

“Molwch ein Duw!
Pawb sy'n ei wasanaethu,
a chi sy'n ei ofni,
yn fawr a bach!”

6Wedyn clywais rywbeth oedd yn swnio'n debyg i dyrfa enfawr o bobl, neu sŵn rhaeadrau o ddŵr neu daran uchel:

“Haleliwia!
Mae'r Arglwydd Dduw Hollalluog
wedi dechrau teyrnasu.
7Gadewch i ni ddathlu a gorfoleddu
a rhoi clod iddo!
Mae diwrnod priodas yr Oen wedi cyrraedd,
ac mae'r ferch sydd i'w briodi wedi gwneud ei hun yn barod.
8Mae hi wedi cael gwisg briodas
o ddefnydd hardd, disglair a glân.”

(Mae'r defnydd hardd yn cynrychioli gweithredoedd da pobl Dduw.)

9Wedyn dyma'r angel yn dweud wrtho i, “Ysgrifenna hyn i lawr: ‘Mae'r rhai sy'n cael gwahoddiad i wledd briodas yr Oen wedi eu bendithio'n fawr!’” Wedyn dyma fe'n dweud, “Neges gan Dduw ydy hon, ac mae'n wir.”

10Yna syrthiais i lawr wrth ei draed a'i addoli. Ond meddai, “Paid! Duw ydy'r unig un rwyt i'w addoli! Un sy'n gwasanaethu Duw ydw i, yn union yr un fath â ti a'th frodyr a'th chwiorydd sy'n glynu wrth y dystiolaeth sydd wedi ei rhoi gan Iesu. Mae'r dystiolaeth sydd wedi ei rhoi gan Iesu a phroffwydoliaeth yr Ysbryd yr un fath.”

Y marchog ar gefn ceffyl gwyn

11Roedd y nefoedd yn llydan ar agor, ac o'm blaen i roedd ceffyl gwyn â marchog ar ei gefn. ‛Yr Un ffyddlon‛ ydy'r enw arno, a'r ‛Un gwir‛. Mae'n gyfiawn yn y ffordd mae'n barnu ac yn ymladd yn erbyn ei elynion. 12Roedd ei lygaid fel fflam dân, ac roedd llawer o goronau ar ei ben. Roedd ganddo enw wedi ei ysgrifennu arno, a neb yn gwybod yr enw ond fe'i hun. 13Roedd yn gwisgo mantell oedd wedi ei throchi mewn
19:13 throchi mewn: Mae rhai llawysgrifau yn dweud thaenellu â.
gwaed, a'i enw oedd ‛Gair Duw‛.
14Roedd byddinoedd y nefoedd yn ei ddilyn, yn marchogaeth ar geffylau gwynion ac yn gwisgo dillad o liain main gwyn glân. 15Roedd cleddyf miniog yn dod allan o'i geg, a bydd yn ei ddefnyddio i daro'r cenhedloedd i lawr. “Bydd yn teyrnasu drostyn nhw gyda theyrnwialen haearn.” b Bydd yn sathru'r gwinwryf (sy'n cynrychioli digofaint ffyrnig y Duw Hollalluog). 16Ar ei fantell wrth ei glun mae'r teitl hwn wedi ei ysgrifennu:

 BRENIN AR FRENHINOEDD AC ARGLWYDD AR ARGLWYDDI.

17Yna gwelais angel yn sefyll ar yr haul, ac yn galw'n uchel ar yr holl adar oedd yn hedfan yn yr awyr, “Dewch at eich gilydd i fwynhau'r wledd sydd gan Dduw ar eich cyfer chi! 18Cewch fwyta cyrff marw brenhinoedd, arweinwyr milwrol, milwyr, ceffylau a'u marchogion, a chyrff marw pob math o bobl – dinasyddion rhydd a chaethweision, pobl gyffredin a phobl fawr.”

19Wedyn gwelais yr anghenfil a brenhinoedd y ddaear a'u byddinoedd wedi casglu at ei gilydd i ymladd yn erbyn yr un oedd yn marchogaeth y ceffyl, ac yn erbyn ei fyddin. 20Ond daliwyd yr anghenfil, a hefyd y proffwyd ffug oedd wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol ar ei ran. Gyda'i wyrthiau roedd wedi llwyddo i dwyllo y bobl hynny oedd wedi eu marcio gyda marc yr anghenfil ac wedi addoli ei ddelw. Cafodd yr anghenfil a'r proffwyd ffug eu taflu yn fyw i'r llyn tân sy'n llosgi brwmstan. 21Cafodd y gweddill ohonyn nhw eu lladd gan y cleddyf oedd yn dod allan o geg yr un oedd yn marchogaeth ar gefn y ceffyl. Daeth yr holl adar a gwledda ar y cyrff marw.

Copyright information for CYM